Croeso i Yn y Ffrâm, adnodd ar gyfer myfyrwyr addysg uwch sy'n dysgu am ffilm a theledu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ysgrifennu traethawd ar ffilm yng Nghymru? Eisiau gwybod pwy oedd yn y gyfres honno a drafodwyd yn eich darlith? Mae Yn y Ffrâm yma i chi felly gyda manylion lu ar gyfer dros hanner cant o ffilmiau a rhaglenni Cymraeg a Saesneg. Mae cofnodion yn cynnwys gwybodaeth am y cynhyrchiadau, eu cast a'u criw, yn ogystal â gwybodaeth gyfeiriol fel y gallwch ddargnafod yn hawdd lle i fynd i wneud ymchwil pellach am y ffilm neu gyfres.
Mae cofnodion Con Passionate a Sleep Furiously yn cynnwys darnau dadansoddol gan arbennigwyr yn y maes a gobeithiwn ychwanegu rhagor o ysgrifau fel hyn yn y dyfodol.
Mwynhewch!
2005 (Cyfres 1)
Cyfres deledu am gôr meibion Gwili yn delio gydag arweinyddes newydd, Davina y fenyw ddeniadol, chwareus, wedi i Walford eu harweinydd farw.