Hafan

Hafan

Croeso i Yn y Ffrâm, adnodd ar gyfer myfyrwyr addysg uwch sy'n dysgu am ffilm a theledu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ysgrifennu traethawd ar ffilm yng Nghymru? Eisiau gwybod pwy oedd yn y gyfres honno a drafodwyd yn eich darlith? Mae Yn y Ffrâm yma i chi felly gyda manylion lu ar gyfer dros hanner cant o ffilmiau a rhaglenni Cymraeg a Saesneg. Mae cofnodion yn cynnwys gwybodaeth am y cynhyrchiadau, eu cast a'u criw, yn ogystal â gwybodaeth gyfeiriol fel y gallwch ddargnafod yn hawdd lle i fynd i wneud ymchwil pellach am y ffilm neu gyfres.

Mae cofnodion Con Passionate a Sleep Furiously yn cynnwys darnau dadansoddol gan arbennigwyr yn y maes a gobeithiwn ychwanegu rhagor o ysgrifau fel hyn yn y dyfodol.

Mwynhewch!

Con Passionate

Con Passionate Gadewch sylw

2005 (Cyfres 1)

Cyfres deledu am gôr meibion Gwili yn delio gydag arweinyddes newydd, Davina y fenyw ddeniadol, chwareus, wedi i Walford eu harweinydd farw.

Hedd Wyn

Hedd Wyn Gadewch sylw

1992

Hanes bardd ifanc fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Sleep Furiously

Sleep Furiously Gadewch sylw

2008

Dogfen yw hon am gymuned wledig Trefeurig nepell o Aberystwyth.

Gweld yr holl deitlau