Ddim yn deall term? Ewch draw i Eiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol




Bethesda yn y tridegau, cartref dros dro i Eldra, sipsi ifanc. Mae bywyd y ferch ifanc yn ynddangos fel un siwrna hir; lle mae hud a lledrith yn chwarae rhan annatod o drefn naturiol bywyd.
Ond nid yn unig mae'n rhaid i Eldra ddysgu am fywyd Romani, mae'n hanfodol iddi hefyd ddeall cyfyngiadau realti bywyd ei chyfeillion newydd a'r gormes sydd yn bodoli o fewn trefn gymdeithasol ardal y chwareli.