Ddim yn deall term? Ewch draw i Eiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol


Wedi bod yn sosialydd ar hyd ei oes mae'n teimlo'n ddig ac yn chwerw tuag at lywodraeth sydd wedi anghofio amdano yn ei henaint.
Ar ôl cael ei berswadio gan ei blant i brynu ei dŷ cyngor yn yr wythdegau ffyniannus, mae'n sylwi fod y llwyodraeth honno, a fanteisiodd gymaint ar berchnogaeth ddeng mlynedd ynghynt, yn disgwyl iddo werthu ei eiddo'n awr er mwyn talu am ei ofal pe bai'n rhaid iddo fynd i gartref preswyl.
Wrth i William Davies gerdded o'i dŷ cyngor un bore, mae'n rhoi cynllun anobeithiol a hurt ar waith a fydd yn enill y blaen ar y system yn ei dyb ef.
Ond aiff pethau o chwith wrth i'r hen ddyn sylweddoli ei fod wedi gwenud camgymeriad ofnadwy.
Wrth i ddiwrnod yr etholiad agosáu, mae William Davies a'i deulu'n dysgu ambell i wirionedd - am eu gilydd ac am eu gwir deimladau am eu cartref.
Ffilm sy'n mynd i'r afael â'r thema cartref ac, yn arbennig, gwahanol ffyrdd aelodau'r teulu o edrych arno.
Lleolir y ffilm mewn cadarnle Cymraeg anghysbell yng ngogledd orllewin cymru yn ystod yr ychydig wythnosau cyn etholiad cyffredinol 1997, pan oedd y blaid geidwadol yn colli eu gafael ar rym ar ôl deunaw mlynedd o lywodraethu.
[crynodeb o wefan swyddogol y ffilm]