Ddim yn deall term? Ewch draw i Eiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol

Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw Gadewch sylw Yn ôl i Chwilio

  • Marc - Gruff Meredith - Mindblowing (2000)
Teitl Gwreiddiol
Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw
Teitl Amgen
Mindblowing
Blwyddyn
2000
Hyd y Ffilm
98 mun
Dyddiad y Darllediad Cyntaf
25 Rhag 2000
Crynodeb

[daw'r grynodeb isod o becyn y wasg ar gyfer y ffilm*]

Caiff Dylan, (pysgotwr deunaw mlwydd oed), a’i gariad, Meleri, (merch fferm hardd), y ddau o Ynys Armor, eu gwahodd am benwythnos meddwol yng Nghaerdydd.

Tridiau yn ddiweddarach, mae Meleri’n dychwelyd ar ei phen ei hun i Ynys Armor wedi gweld Dylan, y ‘sglyfaeth, yn snogio hen slapar Kierdiffaidd, (Alis), mewn clwb nos.

Dan gyfarwyddyd ei ffrinmd gorau, wêster Marc, mae Dylan yn treulio haf cyfan yng Nghaerdydd yn gwirioni ar garu, ar glybio, ar fyw heb ei rieni, heb reolau a heb Meleri...Er, gormod o ddim nid yw dda ac mae Dylan yn dechrau hiraethu am gadernid ei fywyd ar Armor. Pan mae’n digwydd cyfarfod ag Alis mewn bar, mae’n syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad efo hi. Mae hi’n wahanol i Meleri ym mhob ffordd, a does ond un lle yn y byd yr hoffai fynd a hi: yn ol i’w garterf ar yr ynys.

Fodd bynnag, nid yw’r paradwys ddisgrifiodd Dylan i Alis yn bod ac ar gyrraedd yr ynys, aiff popeth o chwith. Mae ei ffrind gorau, Marc, hefyd wedi dychwelyd i’r ynys ac wedi syrthio mewn cariad gyda Meleri; ond mae Dylan yn dal i garu Meleri (er ei fod hefyd mewn cariad gydag Alis); mae Meleri o hyd yn caru Dylan ac mae Alis yn ei garu hefyd...

Mae’r ffilm hon yn cydio mewn un cyfnod mewn amser yr ydym ni i gyd yn ei gofio, haf hedonistaidd, ifanc, sydd yn diflannu fel seren wib. Ond yn ei ysfa i gael diwrnod hollol mindblowing, mae ein harwr, hefyd, yn dysgu byw.

* Casgliad Archif David Berry (Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru)

Cyfarwyddwr :
Euros Lyn
Sgript gan
Owain Meredith
Addasiad o
Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw gan Owain Meredith
Cynhyrchydd
Peter Edwards
Cwmnïau Cynhyrchu
HTV Wales
Genre
Addasiad, Ieuenctid,
Yn ôl i Chwilio