Ddim yn deall term? Ewch draw i Eiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol

Dal:Yma/Nawr Gadewch sylw Yn ôl i Chwilio

  • dalymanawr ©s4c
  • dalymanawr ©s4c
  • dalymanawr ©s4c
  • dalymanawr ©s4c
  • dalymanawr ©s4c
Teitl Gwreiddiol
Dal:Yma/Nawr
Blwyddyn
2003
Hyd y Ffilm
75 munud
Crynodeb

Ffilm sy'n cyfleu'r traddodiad barddol yng Nghymru ar hyd yr oesoedd. Caiff golygfeydd o Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 eu plethu gyda dehongliadau gweledol trawiadol o rai o gerddi mawr yr iaith gymraeg. Wedi'i rhannu'n 'benillion' gwahanol, mae'r ffilm yn ymdrin â rhai o themâu oesol ein barddoniaeth.

Mae rhai o sêr rhyngwladol amlycaf Cymru yn cymryd rhan yn y ffilm. Ymysg y rhai sy'n adrodd cerddi mae Siân Phillips, Ioan Gruffudd, Matthew Rhys a Rhys Ifans, gyda'r cyfansoddwyr a'r cantorion Cerys Matthews a John Cale yn perfformio eu trefniannau eu hunain o ganeuon traddodiadol Cymreig. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gefndir gan Owen Powell, gynt o Catatonia, a Bedwyr Humphries. [crynodeb o wefan swyddogol Dal:Yma/Nawr]

Cerddi'r Ffilm

"Can y Gwneuthwr Mapiau" Gwyneth Lewis
"Mewn Dau Gae" Waldo Williams
"Ewyllys i'r Meibion" Dafydd Rowlands
"Yr Hebog uwch Felindre" Alan Llwyd
"Awelon" Aled Jones Williams
"Traeth y Pigyn" T.Llew Jones
"Ystafell Gynddylan" Llywarch Hen
"Ymadawiad Arthur" T. Gwynn Jones
"Y Rheswm" T.H.Parry Williams
"Marwnad Llywelyn" Gruffydd Ab yr Ynad Goch
"Dadeni" Mererid Hopwood
"Agro" Sion Eirian
"Y Gododdin" Aneirin
"Ar Lan y Mor" Traddodiadol
"Cilmeri" Gerallt Lloyd Owen
"Y Gwanwyn" Dic Jones
"Morfudd fel yr haul" Dafydd Ap Gwilym
"Ynyswyr" Myrddin Ap Dafydd
"Disgwyl yr Arglwydd" Anne Grifiths
"Croesi Traeth" Gwyn Thomas
"Arglwydd Dyma Fi" Ieuan Gwyllt
"Pererin Wyf" William Williams, Pantycelyn
"Rhyddid" Emyr Lewis
"Pererin Nid Wyf" David R Edwards
"1/1/00" Lisa Tiplady
"Dychwelyd" T.H.Parry Williams

Cyfarwyddwr :
Marc Evans (ac eraill - gweler cydnabyddiaethau eraill)
Addasiad o
nifer o weithiau barddonol Cymraeg
Cynhyrchydd
Ynyr Williams
Cwmnïau Cynhyrchu
Fiction Factory Films / S4C
Genre
Addasiad,
Yn ôl i Chwilio