Gyda thensiynau hiliol a chyffro diwydiannol cymoedd de Cymru yn 1911 yn gefndir i'r stori, mae Solomon a Gaenor yn adrodd hanes nwydus a theimladwy y garwriaeth waharddedig rhwng Cymraes ifanc a llanc o Iddew. Mae Gaenor, sy'n dod o deulu o gapelwyr selog, yn syrthio mewn cariad â phedler ifanc, sy'n cuddio'i hunaniaeth Iddewig rhagddi hi a'i theulu. Er o gefndiroedd sy'n debyg ar lawer cyfrif, y mae yna hefyd fyd o wahaniaeth rhwng y ddau.
Er cryfed eu cariad, y mae ffawd, serch hynny, yn eu herbyn, wrth i atgasedd y fro cynllwynio i ddinistrio eu hapusrwydd brau.
APT Films / APT Productions / Arts Council of England / Arts Council of Wales / Channel 4 Films / National Lottery / September Films / S4C