Ddim yn deall term? Ewch draw i Eiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol

Mae hi’n 1977 a thîm rygbi Cymru ar drothwy ennill y gamp lawn am y trydydd tro mewn llai na degawd. Teithia criw o gefnogwyr o gymoedd y de i Baris er mwyn gwylio’r tîm yn eu gêm dyngedfennol yn erbyn y Ffrancwyr yn Parc des Prince yn llawn gobeithion am fuddugoliaeth gofiadwy.
Ynghyd â theithio i wylio’r rygbi mae’r prif gymeriadau ar eu taith bersonol eu hunain i wireddu uchelgeisiau a breuddwydion personol. Mae Glyn ar drywydd cyflawni’r ‘grand slam’ carwriaethol trwy sgorio a Ffrances a Caradog Lloyd-Evans ei dad ar daith i ddod o hyd i’r ferch brydferth a fu’n caru â hi ar ddiwedd y Rhyfel.Wedi cyrraedd Paris â’r criw ar drywydd ‘little butterfly’ Mr Lloyd-Evans, gan ei darganfod mewn clwb stripio. Ond nid y ferch ifanc hardd a gofia Caradog yw hi bellach, ond Madame ganol oed y clwb. Wedi ei siomi â Mr Lloyd-Evans ati i foddi ei ofidiau mewn potel o siampên yn ei chwmni.
Llwydda Glyn i swyno Odette, merch Madame, ac mae’r ddau yn dianc i’w llofft wrth i’r Cymry a’r Ffrancwyr ddechrau ymladd yn y clwb, wedi i Mog efelychu’r strip wraig a diosg ei ddillad, er mawr fwynhad i Maldwyn, cyn cael ei arestio mewn dim ond ei fest, ei focsers a’i sanne.
Ar fore’r gêm ac wedi cythrwfl y noson flaenorol, cyrhaedda’r criw Parc des Prince, dan arweinyddiaeth Maldwyn, ond does dim golwg o Glyn, Mr Lloyd-Evans na Mog. Metha Glyn y gêm wedi ei noson fawr â Odette gan ei gwylio ar y teledu yn ei hystafell. Metha Mr Lloyd-Evans y gêm wedi yfed gormod y noson flaenorol, gan roi braw i Madame, Odette a Glyn pan na ellid ei ddeffro. Gwylia Mog yr hanner cyntaf yn y ddalfa gyda’r Gendarmes, cyn ei ryddhau, a rhedeg ar draws Paris er mwyn cyrraedd cyn diwedd yr ail hanner.
 mawr siomedigaeth, collwyd y gêm a’r gamp lawn, ond â’r gêm i’w chwarae gartref ym Mharc yr Arfau y flwyddyn ganlynol ac wedi penwythnos bythgofiadwy, nid oes rhaid digalonni.