Ddim yn deall term? Ewch draw i Eiriadur Termau'r Diwydiannau Creadigol




Dyma ffilm drasig sy'n rhoi mewnwelediad i erchyllder hiliaeth, wrth ddarlunio bywyd pum person ifanc sy'n ceisio dal ymlaen at eu breuddwydion. Canola'r ffilm ar Leigh-Anne Williams, mam sengl ifanc, a'u chyfoedion Robbie, sy'n dyheu i ffoi o'r gymuned diobaith, Gavin, sy'n chwilio am gariad, a Stephen, sy'n dyheu am hunaniaeth Gymreig ystyrlon. Maent yn bodoli ar gyrion cymdeithas, nes un diwrnod tyngedfennol wrth i ddiflastod, paranoia, rhwystredigaeth a dicter droi'n gymysgedd hunllefus. Pan mae dyfodol Leigh-Anne a'i phlentyn dan fygythiad, mae'n troi ei llid ar ei chymydog Mwslemaidd, Hassan. O ganlyniad, ceir llofruddiaeth erchyll ac mewn un eiliad, mae'r grwp ifanc wedi selio eu tynged.